AMH Logo

Croeso

AMH Logo
Croeso i wefan Neuadd Goffa Aberaeron.

Agorwyd y Neuadd yn 1925 i fod yn 'gofeb barhaol' i ddynion dewr ein cymuned a wnaeth yr aberth eithaf drosom yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Cafodd y Neuadd ei hadeiladu gan danysgrifiadau cyhoeddus ac yn cael ei chynnal gan y gymuned leol.

Mae ein Neuadd mewn lleoliad cyfleus ar Stryd y Fro (y ffordd sy'n arwain at Lanbedr Pont Steffan) ac o fewn cyrraedd hawdd gan ei bod 5 munud ar droed o ganol tref Aberaeron.

Y Neuadd Goffa

Mae cyfleusterau modern y Neuadd yn bodloni'r rhan fwyaf o anghenion, ac mae'n gartref i sawl grŵp gan gynnwys Memorama, ein Cymdeithas Ddrama leol, a Chlwb Snwcer Aberaeron. Mae modd hurio'r neuadd, y gegin a'r ystafell bwyllgor hefyd ar gyfer digwyddiadau megis priodasau a dathliadau eraill, gan gynnwys ar ddydd Sadwrn erbyn hyn.

I gael rhagor o wybodaeth neu i fwcio'r cyfleusterau cysylltwch â ni.

Fe gewch ragor o wybodaeth trwy ddilyn ein dolen Facebook isod.
picure
picure
^