AMH Logo

Hanes . .

Neidiwch i'r wybodaeth ar y canlynol:

Seremoni Agoriadol 1925

Syr Geraint Evans


1925 - Seremoni Agoriadol

Agor NGA tud .1

Agor NGA tud.2

Agor NGA tud .3




Syr Geraint Evans
Araith dadorchuddio portread
gan Huw Evans



Mr Huw Edwards, gwesteion anrhydeddus, a boneddigesau a boneddigion. Ar ran fy mrawd Alun a'n teuluoedd, hoffwn ategu'r croeso cynnes a estynnwyd i chi gan Robert Thomas, ond hefyd i ddiolch i chi gyda yn bersonol am ddod i'r Neuadd Goffa heno i fod yn dyst i ddadorchuddio portread o'n tad.

Rydym yn falch iawn bod Pwyllgor y Neuadd Goffa wedi penderfynu anrhydeddu ein tad trwy arddangos portread ohono yn y Neuadd roedd ganddo gymaint o feddwl ohoni, yn y dref roedd yn ei charu ac yn ei galw'n gartref, a bod Huw Edwards yma i'w ddadorchuddio, ac rwy'n sicr y byddai dad wedi galw hynny yn tŷ llawn.

Huw, rydym yn gwybod eich bod yn gyfarwydd iawn ag Aberaeron, gyda chysylltiadau cryf eich teulu â'r ardal, yn arbennig Aberarth, serch hynny, rydym yn eich croesawu chi yma heno, ac yn enwedig felly Alun a finnau, sy'n diolch i chi am y fraint o ddadorchuddio portread dad; gwerthfawrogwn hynny'n fawr iawn.

Fel y clywsom, gwelwyd datblygiadau mawr yn y Neuadd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae ein Cadeirydd disglair, Robert Thomas, wedi diolch i'r bobl hynny a fu'n allweddol i sicrhau goroesiad y Neuadd a'i gwneud yr hyn y mae heddiw. Ond tra bo gen i'r cyfle, ni allaf beidio â sôn am y cyfraniad enfawr y mae Robert ei hun wedi'i wneud i'r Neuadd. Bu'n Gadeirydd rhagorol dros y 10 mlynedd diwethaf ac yn ysgogiad mawr i'r gwaith o wella a hyrwyddo'r Neuadd. Mae'n anodd meintioli faint y mae wedi'i gyflawni fel Cadeirydd ond mae'n ddigon i ddweud bod y Neuadd yn hynod ddyledus iddo.

Er bod ein tad wedi canu ym mhob cwr o'r byd ac ym mhob un o'r tai opera a neuaddau cyngerdd mawr, mae'n wir i ddweud bod gan y Neuadd hon le arbennig yn ei galon. Fe ganodd yma ac rwy'n cofio flynyddoedd lawer yn ôl ei fod wrth wrth ei fodd yn trefnu cyngerdd codi arian ar gyfer y Neuadd, gan ddod â chantorion enwog yma o Covent Garden. Roedd e'n awyddus iawn i'r noson fod yn un llwyddiannus, ac yn poeni gymaint felly fel bod Alun a finnau wedi cael pryd o dafod ganddo pan ddywedon ni mai Neuadd Goffa Aberaeron oedd hon nid yr Albert Hall. Rwy'n falch i ddweud y bu'r noson llwyddiant ysgubol.

Pan ofynnwyd iddo pam ei fod mor barod i roi ei amser i drefnu'r gyngerdd hon yn y Neuadd dywedodd, "oherwydd mae'n lle anhepgor ac yn lle pwysig yn y gymuned ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol." Mor wir yw'r geiriau hynny.

Roedd cau capeli a neuaddau cymunedol yn ei dref enedigol Cilfynydd yn fater o dristwch mawr iddo. Roedd yr adeiladau hyn yn fwy na lleoedd addoli iddo ef, roedden nhw'n lleoliad ar gyfer perfformiadau, cyngherddau a darlithoedd. Dyma lle roedd e ac eraill wedi dechrau mireinio eu sgiliau canu ac actio o flaen cynulleidfa, ac yn rhan o ddiwylliant Cymru yn sicr, yn enwedig o ran cynnal Eisteddfodau. Bu'n cellwair un tro bod tranc y lleoliadau hyn wedi cael effaith niweidiol ar y canu ym Mharc yr Arfau Caerdydd, ac wedi methu â chodi digon o ofn ar dîm Lloegr, a dyma'r rheswm pam roedd Cymru wedi colli'r gêm rygbi. Ond roedd e bob amser yn gwybod, fel y dylem ni gyd, pan fydd yr adeiladau hyn wedi mynd maen nhw wedi mynd am byth, a dyna pam roedd e mor awyddus i'r Neuadd hon oroesi a ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Ar hyd a lled y byd roedd ein tad yn cael ei adnabod yn aml a chyfeiriwyd ato droeon gan newyddiadurwyr fel 'Evans the voice' oherwydd ei lais unigryw, bariton bas cyfoethog Cymreig. Wel, yma heno mae gennym ni 'Edwards the voice', yr wyneb fwyaf adnabyddus ar deledu Prydain gyda'i lais Gymreig hynod ei hun. Gallwch chi ganu nes ymlaen ni os hoffech chi Huw.

Rwy'n cofio fy mam yn sôn wrtha i am un cyfweliad a roddodd fy nhad i un newyddiadurwr a faint o argraff roedd y Cymro ifanc, proffesiynol, gwybodus a dymunol hwn wedi'i gael arno. Yn anffodus, dyma'r cyfweliad olaf a roddodd fy nhad cyn iddo farw, a'r newyddiadurwr, ie neb llai na Mr Huw Edwards.

Ym myd newyddiaduraeth, derbynnir yn gyffredinol bod Huw Edwards yn un o'r darlledwyr a chyflwynwyr teledu gorau, mwyaf uchel ei barch, ac mae wedi bod yn wyneb y rhan fwyaf o raglenni mwyaf blaenllaw y BBC. Mae wedi cyflwyno Panorama, Newsnight, rhaglenni arbennig yr Etholiad Cyffredinol, Gŵyl y Cofio, Trooping the Colour, Agoriad Swyddogol y Senedd a Seremoni Agoriadol a Chau Gemau Olympaidd 2012 i enwi rhai yn unig, heb anghofio ei raglenni hanesyddol sydd wedi ennill gwobr BAFTA. Pan oedd Huw yn darlledu y rhaglen Newyddion 6 o'r gloch hon oedd y rhaglen newyddion â'r nifer fwyaf o wylwyr ar y teledu. Pan symudodd Huw i ddarlledu'r rhaglen newyddion o fri Newyddion 10 o'r gloch y BBC, y hon oedd â'r nifer fwyaf o wylwyr ar y teledu. Yn 2012 fel gyflwynodd darllediad byw y BBC o briodas y Tywysog William a Kate Middleton i gynulleidfa deledu o fwy nag 20 miliwn ar ei frig yn y DU yn unig. Does dim dwywaith - mae'r dyn yma yn wirioneddol siarad â llawer o bobl.

Huw, fel y dywedais, wrth gwrs mae'n fraint i ni eich cael chi yma heno i ddadorchuddio y portread o'n tad, ond rwyf yr un mor falch i gyhoeddi ar ran y Pwyllgor bod Huw wedi derbyn gwahoddiad y Pwyllgor i fod yn noddwr cyntaf erioed Neuadd Goffa Aberaeron.

Mae'r ffaith bod Huw wedi derbyn y gwahoddiad i fod yn noddwr yn dipyn o lwyddiant oherwydd nawr bob tro rydyn ni'n cynnal digwyddiad bydd yn gallu ei hysbysebu ar ddiwedd y rhaglen Newyddion am 10 o'r gloch.

Foneddigesau a boneddigion, cyn i mi orffen, mae'n rhaid i mi wireddu breuddwyd bach fy hun wrth i mi ddweud……. a nawr drosodd i chi Huw Edwards yn Aberaeron.

Diolch yn fawr.
^